SILCG

Rhaglen Ysgogiad Hydrogen

 

Datblygwyd y prosiect hwn i ddangos hyfywedd a chyfleoedd masnachol creu hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy.

 

Bydd y prosiect yn sefydlu 'cysylltiad' rhwng Canolfan Technoleg Bae Abertawe a'r Ganolfan Hydrogen ar Barc Ynni Baglan, gan gynnwys gwaith uwchraddio angenrheidiol ar yr offer, sy'n cynnwys electroleiddiwr i greu systemau ynni clyfar a defnyddio trydan sydd dros ben drwy ei droi yn hydrogen yn danwydd i gerbydau at ddefnydd y cyngor a fydd hefyd yn cael eu prynu gyda chyllid y Fargen Ddinesig. Mae posibilrwydd o efelychu'r gweithgaredd hwn ar raddfa fasnachol a bydd hynny'n cael ei archwilio wrth gyflawni'r prosiect cychwynnol hwn.