Cysylltedd drwy gydweithredu
Mae'r Rhaglen Seilwaith Digidol yn fuddsoddiad o £25m i wella cysylltedd sefydlog a symudol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.
Dyheadau'r rhaglen yw:
- Band eang gwell i bawb, heb adael neb ar ôl.
- Rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg sy'n dod i'r amlwg.
- Tirwedd ddigidol gynhwysol sy'n diwallu anghenion pawb.
Mae tair ffrwd waith y rhaglen – Gwledig, Lleoedd Cysylltiedig a Rhwydweithiau Diwifr y Genhedlaeth Nesaf i gyd yn cael eu rhoi ar waith. Mae'r rhaglen gyffredinol yn cael ei rheoli gan y tîm rhanbarthol ac mae Hyrwyddwyr Digidol ym mhob Awdurdod Lleol yn cefnogi'r ddarpariaeth ar lefel leol.