-
£30 miliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
-
£10 miliwn Fargen Ddinesig
-
£16 miliwn Sector Cyhoeddus
-
£4 miliwn Buddsoddiad y Sector Preifat
Mae'r rhaglen Sgiliau a Thalentau yn cael ei harwain gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ac mae'n canolbwyntio ar feysydd twf uchel yn y sectorau digidol, adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu clyfar ac iechyd a llesiant, gan ddarparu:
- 2,200 o sgiliau a chyfleoedd datblygu ychwanegol
- 14,000 o gyfleoedd uwchsgilio
- O leiaf 3,000 o brentisiaethau newydd
- 20 o fframweithiau cyrsiau newydd
- O leiaf 2 ganolfan ragoriaeth
Drwy weithio ar draws y rhanbarth ac ochr yn ochr â phartneriaid o'r sector preifat, addysg uwch ac addysg bellach, ysgolion a'r trydydd sector, bydd tîm y rhaglen yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac yn pennu'r newidiadau sydd eu hangen i ddatblygu cyrsiau a fframweithiau newydd i fodloni'r bylchau hyn o ran sgiliau.
Mae prosiectau peilot yn cael eu datblygu a'u lleoli sy'n cyd-fynd ag anghenion diwydiant a themâu allweddol y Fargen Ddinesig.
Cliciwch yma i weld prosiectau peilot cyfredol gan y rhaglen Sgiliau a Thalentau