Baromedr Sgiliau

Gan ganolbwyntio ar sectorau diwydiant uchel eu twf yn y sectorau digidol, adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu clyfar ac iechyd a llesiant, bydd y rhaglen yn darparu 2,200 o gyfleoedd sgiliau a datblygu ychwanegol, 14,000 o unigolion â sgiliau uwch a 3,000 o brentisiaethau
newydd - a fydd yn cefnogi busnesau drwy ganiatáu iddynt dyfu a diogelu at y dyfodol drwy ddatblygu gweithlu talentog o fewn y rhanbarth.
Drwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid o’r sector preifat, addysg uwch ac
addysg bellach, ysgolion a’r trydydd sector, mae tîm y rhaglen yn nodi o bryd i’w gilydd fylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac yn pennu’r newidiadau sydd eu hangen i ddatblygu cyrsiau a fframweithiau newydd i lenwi'r bylchau hyn o ran sgiliau. Mae prosiectau peilot
yn cael eu datblygu a’u lleoli sy’n cyd-fynd ag anghenion diwydiant a themâu
allweddol y Fargen Ddinesig.