Cyflymu'r Economi

Yr Egin

  • £25 miliwn Cyfanswm y Buddsoddiad
  • £5 miliwn Fargen Ddinesig
  • £19 miliwn Sector Cyhoeddus
  • £1.5 miliwn Buddsoddiad y Sector Preifat

Clwstwr digidol a chreadigol yw Canolfan S4C Yr Egin, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant  ar gampws Caerfyrddin. Mae gan y ganolfan eiconig awditoriwm, cysylltedd cyflym iawn, swyddfeydd a gweithfannau cyfleus o'r radd flaenaf a chyfleusterau ôl-gynhyrchu ar gyfer gweithwyr proffesiynol a rhaglen amrywiol o hyfforddiant a gweithgareddau cymunedol.

S4C, y darlledwr yw’r prif denant ac mae nifer o gwmnïau creadigol a digidol blaenllaw wedi cydleoli yn y ganolfan.

Ers agor yn 2018 mae'r Egin wedi datblygu fel lleoliad diwylliannol, canolfan fusnes a chlwstwr creadigol, catalydd allweddol sy'n ysbrydoli cydweithio, yn datblygu talent ac yn gwella statws y Gymraeg.

Mae dros 50,000 o bobl wedi ymweld â'r Egin i weld première ffilmiau, cynyrchiadau sinema a theatr neu i gymryd rhan mewn cynadleddau, cyfarfodydd a ffrydiau byw.

Yn ystod y flwyddyn dathlodd Yr Egin 5 mlynedd (2022-23) a bu'n gyfrifol am gael effaith economaidd gwerth £21.6m i economi Cymru.

Bydd y prosiect hwn, a leolir yn Yr Egin, Caerfyrddin yn cynnwys:

427 o swyddi
Gweithfan 363 metr
150 o gyfleoedd sgiliau a hyfforddiant
167 o gyfleoedd gwaith adeiladu yn y gweithle
Cyfraniad o £89.5 miliwn tuag at Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol

Mae'r model cyflawni ar gyfer ail gam prosiect Yr Egin yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Brifysgol a'i hymgynghorwyr

Darllenwch ragor am Yr Egin

Tenantiaid Presennol

Mae'r adeilad wedi cyrraedd lefelau meddiannaeth o 100%, ac mae'r tenantiaid presennol yn cynnwys:

  • S4C
  • Asset Finance Solutions
  • Rural Office
  • Carlam Ltd
  • Atebol
  • Arts Council Wales
  • Optimwm
  • Moilin
  • Captain Jac
  • Theatr Genedlaethol Cymru
  • Police Pass
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Stiwdio Box
  • Twrw ltd
Cwrdd â'r Tîm
  • Geraint Flowers Yr Egin/Matrics Arloesi - Rheolwr Prosiect
Amdanom ni