Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau
Mae Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau a arweinir gan Gyngor Abertawe yn cynnwys tair elfen:
- Arena dan do ddigidol â chapasiti o 3,500 ar safle ger yr LC yng nghanol dinas Abertawe a fydd yn cynnal cyngherddau, sioeau teithiol, arddangosiadau, cynadleddau, twrnameintiau chwarae gemau a digwyddiadau eraill. Penodwyd Ambassador Theatre Group i weithredu'r arena dan do pan fydd yn weithredol. Dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar y safle wrth i'r arena anelu at agor yn hydref 2021. Yn ogystal, bydd sgwâr digidol sy'n cynnwys celfweithiau digidol a chysylltiad cyflym iawn â'r rhyngrwyd yn cael ei ddatblygu y tu allan i'r arena.
- Datblygiad swyddfeydd o'r radd flaenaf ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe. Bydd tua 100,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd ac amwynderau hyblyg yn cael eu datblygu ar gyfer busnesau technoleg a digidol, ynghyd â chyfleusterau cynadledda a chyfarfodydd yn ogystal â chysylltiadau posibl â'r arena dan do. Bydd y datblygiad hwn, a fydd yn ysgogi datblygiad pellach ar Ffordd y Brenin, yn elwa ar gysylltedd digidol o'r radd flaenaf ac yn integreiddio â thechnoleg dinas glyfar. Mae tendro am gontract adeiladu ar y gweill.
- Datblygiad Matrics Arloesi ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant SA1 ar gyfer busnesau newydd, a fydd yn meithrin entrepreneuriaeth drwy gysylltiadau agos â'r byd academaidd.